Amcangyfrif

Amcangyfrif
Ni ellir gweld pob melysyn yn y jar yma, ac oherwydd hyn, byddai angen dull mathemategol i amcangyfrif faint o felysion sydd yn y jar.
Enghraifft o'r canlynolproses peirianyddol Edit this on Wikidata
Mathfinding, techneg, gweithdrefn, reasoning Edit this on Wikidata

Amcangyfrif yw'r broses o ddod o hyd i frasamcan, sy'n werth mathemategol y gellir ei ddefnyddio at ryw ddiben hyd yn oed os yw data'r mewnbwn yn anghyflawn, yn ansicr, neu'n ansefydlog. Er hynny, gellir defnyddio'r gwerth oherwydd ei fod yn deillio o'r wybodaeth orau sydd ar gael. Yn nodweddiadol, mae amcangyfrif yn golygu "defnyddio gwerth ystadegyn sy'n deillio o sampl i amcangyfrif poblogaeth gyfatebol", er enghraifft. Mae'r sampl yn darparu gwybodaeth y gellir ei luosi trwy wahanol brosesau i bennu'r nifer, neu'r gwerth sydd ar goll. Gelwir amcangyfrif sy'n rhy uchel yn "oramcangyfrif", ac amcangyfrif sy'n is na'r swm cywir yn "danamcangyfrif".[1][2]

Defnyddir 'amcangyfrif' yn aml wrth greu pôl piniwn, er enghraifft i wybod sut y byddai pobl yn bwrw eu pleidlais mewn etholiad. Ar lafar, yn gyffredinol, defnyddir y term 'gés' (o guess), 'bwrw amcan' neu 'ddyfalu'.

Ceir cofnod o'r gair 'amcangyfrif', am y tro cyntaf, yng Ngeiriadur Thomas Jones (Dinbych), yn 1800.[3] Ystyr y gair 'amcan' yw 'bwriad', 'pwrpas' neu 'gynllun'.[4]

  1. Raymond A. Kent, "Estimation", Data Construction and Data Analysis for Survey Research (2001), tud. 157.
  2. James Tate, John Schoonbeck, Reviewing Mathematics (2003), page 27: "An overestimate is an estimate you know is greater than the exact answer".
  3.  amcangyfrif. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  4.  amcan. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search